Cofnodion y cyfarfod diwethaf

19 Mawrth 2014

12:30-13:15

Ystafell Bwyllgora 4, Tŷ Hywel

 

 

YN BRESENNOL:

 

Rebecca Evans AC (Cadeirydd)

RE

Canolbarth a Gorllewin Cymru (Llafur Cymru)

Llyr Gruffydd AC

LlG

Gogledd Cymru (Plaid Cymru)

 

Glenn Page

GP

Staff Cymorth (Grŵp Plaid Cymru)

Colin Palfrey

CP

Staff Cymorth (Lindsay Whittle AC)

Claire Stowell

CS

Staff Cymorth (Rebecca Evans AC)

Sophie Williams

SW

Staff Cymorth (David Rees AC) 

 

Michelle Bushell

MB

Beat Cymru

Rebecca Cassan

RC

Sefydliad Richmond Malta

Katie Dalton (ysgrifennydd)

KD

Gofal

Ewan Hilton

EH

Gofal

Junaid Iqbal

JI

Hafal

Amy Lloyd

AL

Samariaid

Antony Metcalfe

AM

Amser i Newid Cymru 

Sarah Stone

SS

Samariaid

Manel Tippett

MT

Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru

Bill Walden Jones

BWJ

Hafal

Sue Wigmore

SW

Bipolar UK


 

CPGMH/NAW4/16 - Croeso ac ymddiheuriadau

Camau Gweithredu

 

RE

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Croesawodd RE bawb a oedd yn bresennol i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Meddwl.

 

CAFWYD

 

Ymddiheuriadau gan aelodau absennol:

·         Bethan Jenkins AC

·         Martin Bell (BACP)

·         Ruth Coombs (Mind Cymru)

·         Suzanne Duval (Diverse Cymru)

·         Richard Jones (Mental Health Matters)

 

 

 

 CPGMH/NAW4/17 - Amser i Newid Cymru

Camau Gweithredu

 

RE

 

 

AM

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

LlG

 

 

Croesawodd RE AM i’r cyfarfod a gwahoddodd ef i siarad â’r grŵp am Amser i Newid Cymru.

 

Rhoddodd AM gyflwyniad am Amser i Newid Cymru, yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi terfyn ar y stigma a’r gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru – sy’n cael ei chynnal mewn partneriaeth gyda Gofal, Hafal a Mind Cymru ac sydd wedi’i hariannu gan y Loteri Fawr, Comic Relief a Llywodraeth Cymru.

 

 

Amlinellodd AM y gwahanol agweddau ar yr ymgyrch, gan gynnwys marchnata cymdeithasol ac arweinyddiaeth gymdeithasol, sy’n sicrhau bod pobl a’u profiadau yn ganolog i’r ymgyrch. Soniodd hefyd am addewid sefydliadol Amser i Newid Cymru y mae nifer o sefydliadau wedi ymrwymo iddo.

 

Disgrifiodd AM y targedau a osodwyd i’r ymgyrch a’r cynnydd y mae’n ei wneud tuag at y targedau hyn.

 

Diolchodd AM i Aelodau’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus i’r ymgyrch a thalodd deyrnged i’r pedwar AC a fu’n siarad yn agored am eu profiadau o broblemau iechyd meddwl ym mis Tachwedd 2012. Gofynnodd i Aelodau’r Cynulliad barhau i gefnogi’r ymgyrch drwy gyfryngau cymdeithasol, drwy ymweld â digwyddiadau Amser i Newid Cymru a thrwy arddangos deunyddiau Amser i Newid Cymru yn eu swyddfeydd.

 

Siaradodd AM am gynlluniau Amser i Newid Cymru ar gyfer y dyfodol a’r uchelgais i barhau â’r gweithgareddau presennol yn ogystal ag ymestyn gwaith yr ymgyrch i blant a phobl ifanc. Eglurodd hefyd fod Amser i Newid Cymru a’r tri phartner cyflawni mewn trafodaethau â’r Loteri Fawr, Comic Relief a Llywodraeth Cymru ynghylch cyllid yn y dyfodol.

 

Diolchodd RE i AM am gyflwyniad llawn gwybodaeth a dywedodd ei bod yn dda gweld bod yr ymgyrch wedi cyrraedd pob cwr o Gymru. Cododd RE nifer o gamau y gallai’r grŵp trawsbleidiol ac Aelodau’r Cynulliad eu cymryd i gefnogi’r ymgyrch.

 

Mynegodd LlG gefnogaeth i bleidiau gwleidyddol yn ymrwymo i’r addewid sefydliadol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

RE i ystyried cyflwyno Datganiad Barn, a cheisio cefnogaeth drawsbleidiol i’r datganiad hwn, yn cefnogi Amser i Newid Cymru.

 

Aelodau’r Cynulliad i gefnogi Amser i Newid Cymru yn gyhoeddus ar gyfryngau cymdeithasol, yn nigwyddiadau Amser i Newid Cymru a thrwy arddangos deunyddiau Amser i Newid Cymru yn eu swyddfeydd.

 

RE i ysgrifennu at arweinydd bob plaid yn y Cynulliad Cenedlaethol ac annog eu pleidiau/grwpiau gwleidyddol i lofnodi addewid sefydliadol Amser i Newid Cymru.

 

CPGMH/NAW4/18 - Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Camau Gweithredu

 

RE

 

 

 

CYMERADWYWYD

 

Cofnodion y cyfarfod diwethaf.

 

CPGMH/NAW4/19 - Camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf

Camau Gweithredu

 

KD

 

Rhoddodd KD y wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp am y camau a gymerwyd ers y cyfarfod diwethaf.

 

·     CPGMH/NAW4/11 - Ethol cadeirydd newydd

 

CAM I’W GYMRYD: Bydd RE yn ysgrifennu at KS yn diolch iddo am ei waith fel Cadeirydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Mae Llythyr wedi cael ei ysgrifennu a’i anfon at KS.

 

 

·     CPGMH/NAW4/12 - Law yn Llaw at Iechyd Meddwl

 

CAM I’W GYMRYD: Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru (CIMC) i drafod adroddiad blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a llunio papur briffio i Aelodau’r Cynulliad.

 

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Bydd CIMC yn cyfarfod ar 26 Mawrth a bydd yn trafod yr adroddiad Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn y cyfarfod hwn.

 

 

CAM I’W GYMRYD: Aelodau’r Cynulliad i ofyn i’r Gweinidog Busnes am ddatganiad llafar ar adroddiad blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Mae RE wedi gofyn i’r Gweinidog Busnes am ddatganiad llafar ar adroddiad blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl

 

 

CAM I’W GYMRYD: Aelodau’r Cynulliad i herio eu byrddau iechyd lleol ynghylch gweithredu Law yn Llaw at Iechyd Meddwl

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Bydd hyn yn parhau.

 

 

CAM I’W GYMRYD: RE i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd ynghylch Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Mae RE wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd am Gymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac mae wedi cael ymateb. Mae’r ymateb hwn wedi’i gynnwys yn y papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

 

CAM I’W GYMRYD: RE i ysgrifennu at fyrddau iechyd lleol i holi ynghylch eu hymgysylltiad â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr a’u cefnogaeth i gynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ar y byrddau partneriaeth iechyd meddwl lleol

 

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Mae RE wedi ysgrifennu at bob bwrdd iechyd ac wedi cael ymatebion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae’r ymatebion hyn wedi’u cynnwys yn y papurau ar gyfer y cyfarfod. Nid yw Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ymateb eto.

 

Yn dilyn trafodaethau ag RE a JI, argymhellodd KD fod y llythyrau’n cael eu rhannu â’r Fforwm Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr Cenedlaethol er mwyn iddo allu trafod a yw cynnwys y llythyrau yn adlewyrchu eu profiadau ar lefel leol.

 

Cytunodd JI i gymryd y llythyrau at y Fforwm Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr Cenedlaethol ac adrodd yn ôl mewn cyfarfod o’r grŵp trawsbleidiol yn y dyfodol.

 

Awgrymodd EH y dylai adborth o’r Fforwm Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr Cenedlaethol fod yn eitem barhaol ar yr agenda er mwyn caniatáu deialog parhaus rhwng y fforwm a’r grŵp trawsbleidiol.

 

 

 

CAM I’W GYMRYD: JI i anfon papur at KD. KD i’w anfon at aelodau.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Mae’r papur wedi cael ei ddosbarthu ymhlith Aelodau’r Cynulliad ac aelodau eraill y grŵp trawsbleidiol.

 

 

·     CPGMH/NAW4/13 - Y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru)

 

CAM I’W GYMRYD: KD i anfon y ddogfen Dyletswydd i Adolygu at Aelodau’r Cynulliad

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Mae’r papur wedi cael ei ddosbarthu ymhlith Aelodau’r Cynulliad ac aelodau eraill y grŵp trawsbleidiol.

 

 

·     CPGMH/NAW4/14 - Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

 

CAM I’W GYMRYD: RC i anfon gwybodaeth am y gwelliant at Aelodau’r Cynulliad

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: KD i ofyn i RC a yw’r cam gweithredu hwn wedi cael ei gymryd.

 

CAM I’W GYMRYD: RE i ddarllen trawsgrifiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog ar ran y grŵp trawsbleidiol.

 

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Dywedodd JI fod sefydliadau sy’n cynrychioli gofalwyr wedi cael sicrwydd gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol na fyddai’r hawliau a roddwyd i ofalwyr drwy’r Mesur Gofalwyr (Cymru) yn cael eu lleihau yn sgil pasio’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Gwerthfawrogir cefnogaeth barhaus gan Aelodau’r Cynulliad pan fydd rheoliadau a chanllawiau yn cael eu trafod yn y Cynulliad. Bydd RE yn ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog i bwysleisio eto bwysigrwydd hawliau gofalwyr pan fo rheoliadau a chanllawiau yn cael eu datblygu.

 

 

·     CPGMH/NAW4/15 - Cyfarfodydd yn y dyfodol

 

CAM I’W GYMRYD: RE a KD i drefnu dyddiadau ymlaen llaw ar gyfer cyfarfodydd 2014

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Mae dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol wedi’u trefnu:

-     17 Mehefin 2014

-     7 Hydref 2014

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru i drafod adroddiad blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a llunio papur briffio i Aelodau’r Cynulliad.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

JI i gymryd y llythyrau at y Fforwm Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr Cenedlaethol a gofyn am ei farn ar ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ar lefel bwrdd iechyd lleol.

JI i adrodd yn ôl mewn cyfarfod grŵp trawsbleidiol yn y dyfodol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

RE i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog am y mater hwn.

CPGMH/NAW4/19 - Cylch Gorchwyl

Camau Gweithredu

 

RE

 

Cyflwynodd RE y Cylch Gorchwyl drafft.

 

CYMERADWYWYD

Cafodd y cylch gorchwyl drafft ei gymeradwyo gan aelodau’r grŵp.

 

 

CPGMH/NAW4/20 - Adolygiad o gyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl

 

 

BWJ

 

 

 

 

 

 

 

 

EH

 

Rhoddodd BWJ y wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp trawsbleidiol am yr adolygiad arfaethedig o’r cyllid sydd wedi’i neilltuo ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Yn 2008, neilltuodd y Gweinidog Iechyd gyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Disgwylir y bydd hyn yn cael ei adolygu yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Mae mudiadau trydydd sector eisoes yn trafod yr adolygiad gyda swyddogion Llywodraeth Cymru. Pwysleisiodd BWJ bwysigrwydd yr adolygiad yng ngoleuni’r toriadau i gyllid ar draws y ffin a’r angen i wella tryloywder o ran gwariant gan fyrddau iechyd ar wasanaethau iechyd meddwl.

 

Dywedodd EH fod y trydydd sector wedi croesawu’r cyfle i helpu i lunio’r adolygiad a phwysleisiodd bwysigrwydd symud y ffocws o ‘wariant’ i ‘wariant mewn perthynas â chanlyniadau’. 

 

Dywedodd BWJ ac EH nad oedd angen i Aelodau’r Cynulliad gymryd camau ar hyn o bryd, ond y byddai’n ddefnyddiol dychwelyd at y mater a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

CIMC i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad mewn cyfarfodydd yn y dyfodol

CPGMH/NAW4/21 - Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol

 

 

EH

 

 

Mae Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol bellach yn weithredol ac mae defnyddwyr gwasanaethau ac aelodau sy’n ofalwyr wedi bod yn bresennol mewn cyfarfodydd diweddar. Mae cwestiynau ynglŷn â’i ddylanwad a’r angen i sicrhau bod y GIG a Llywodraeth Cymru yn symud oddi wrth ddulliau a arweinir gan broses at ffocws ar ganlyniadau. Mae hefyd yn bwysig sicrhau ymgysylltiad ystyrlon â defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau sy’n ofalwyr.

 

 

CIMC i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad mewn cyfarfodydd yn y dyfodol

CPGMH/NAW4/22 - Dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol

 

 

KD

 

Cadarnhaodd KD y byddai’r ddau gyfarfod nesaf yn cael eu cynnal ar y dyddiadau a ganlyn:

·      17 Mehefin 2014 (12:45-13:15)

·      7 Hydref 2014 (12:45-13:15)

 

Yn ystod y cyfarfod diwethaf, gofynnodd nifer o Aelodau’r Cynulliad am drafodaeth ar fynediad at therapïau seicolegol. O ganlyniad i hynny, mae’r Cadeirydd wedi gwahodd grŵp o ymchwilwyr i siarad yn y cyfarfod nesaf am eu hymchwil i fynediad at therapïau seicolegol.

 

 

 

 

RE

Diolchodd RE i bawb am eu presenoldeb a diolchodd i AM am ei gyflwyniad.